Sut i gyfeirio eich ci
Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod eich ci’n ddiogel. Am nad oes llawer o lochesi’n gallu derbyn anifeiliaid anwes, mi all ein Prosiect Rhyddid ddod o hyd i gartref maeth dros dro diogel a chariadus i’ch ci nes bydd modd i chi ddod at eich gilydd unwaith eto.
Mae ein gwasanaeth yn un cwbl gyfrinachol a di-dâl. Byddwn yn talu costau bwyd, gofal milfeddygol eich ci, ac unrhyw deganau neu ddanteithion fydd eu hangen arnynt i’w helpu i setlo.
Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd angen un neu ddau o bethau arnom i brosesu eich atgyfeiriad. Ond peidiwch â phoeni, mi allwn drafod yr hyn fydd ei angen pan gawn sgwrs.
Cam 1:
I ddechrau, byddwn yn cael mwy o wybodaeth am eich ci. Po fwyaf a wyddom am ei ymddygiad, haws fydd hi i ddod o hyd i deulu maeth addas. Byddwn yn gofyn i chi, neu eich gweithiwr cymorth, i lenwi ffurflen am eich ci i’n helpu i ddeall ei anghenion ac fe allwn ofyn ichi anfon ffotograffau ohonynt.
Cam 2:
Byddwn yn rhoi ichi ddogfen gytundeb sy’n egluro telerau ac amodau lleoliad maeth eich ci. Os penderfynwch roi eich ci ar faeth gyda ni, byddwn yn gofyn ichi lofnodi i gadarnhau eich bod yn cytuno â’r rhain. Byddwn hefyd yn gofyn am e-bost neu lythyr gan eich gweithiwr cymorth neu gan asiantaeth berthnasol yn cadarnhau eich bod yn ffoi rhag cam-drin domestig a’ch bod yn cael help i ddod o hyd i lety diogel.
Cam 3:
Byddwn yn paru eich ci ag un o’n gofalwyr maeth gwirfoddol, gofalgar ac yn gwneud trefniadau i gasglu eich ci o le diogel.
Ffoniwch ni
I siarad ag un o’n tîm o fenywod yn unig gyda’r Prosiect Rhyddid, ffoniwch un o’r rhifau isod. Os nad ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn, ffoniwch eich tîm rhanbarthol agosaf ac mi allwn eich helpu a’ch cyfeirio.
Cymru
0300 373 0677
Llundain a’r Siroedd Cyfagos
Swydd Efrog
Gogledd Orllewin Lloegr
Anfonwch e-bost
Os byddai’n well gennych i ni anfon e-bost, mi wnawn ein gorau i’ch ateb o fewn 24 awr. Peidiwch â chysylltu â ni drwy e-bost oni bai eich bod yn siŵr bod eich cyfrif yn ddiogel ac nad yw’n cael ei fonitro.
Mae rhagor o wybodaeth ar gadw negeseuon e-bost yn ddiogel ar wefan Cymorth i Ferched Cymru.
freedomproject@dogstrust.org.uk
Taith faethu eich ci
Dysgwch ragor am siwrnai faethu eich ci pan fydd yn ein gofal
Cael cymorth ar gyfer cam-drin domestig
Cysylltwch â gwasanaethau arbenigol i gael help a gwybodaeth