Roeddem yn ymwybodol hefyd nad oedd llawer o lochesi'n gallu derbyn anifeiliaid anwes, sy'n golygu y gallai bod yn berchen ar anifail anwes fod yn rhwystr mawr i rywun sy'n ffoi rhag cam-drin domestig.
Lansiwyd y gwasanaeth yn Llundain a Swydd Efrog, ac mae bellach yn gweithredu yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr, East Anglia, Gogledd Lloegr, yr Alban a Chymru.
Rydym yn gweithio'n glos â grŵp profiadol o ofalwyr maeth gwirfoddol sy'n agor eu cartrefi a'u calonnau i'r cŵn hyn, gan dderbyn cymorth ac arweiniad gan ein tîm profiadol.
Rydym bellach wedi helpu dros 2000 o gŵn a'u teuluoedd i ffoi rhag cam-drin domestig ac i ddod o hyd i lety diogel, newydd. Mae'n siŵr mai un o rannau gorau wythnos waith ein timau yw pan fyddant yn aduno ci gyda'i deulu cariadus.
Yn ogystal â darparu ein gwasanaeth maethu cŵn arbenigol, rydym hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng cam-drin domestig ac anifeiliaid anwes, sy’n cynnwys sut y defnyddir hynny fel ffurf o orfodaeth.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â 4 sefydliad arall sy'n aelodau o’r Links Group, i rannu arferion gorau ac i sicrhau'r safonau gwasanaeth uchaf ar gyfer gwasanaethau maethu anifeiliaid anwes arbenigol.