Ein partneriaeth â Gwasanaethau Cam-drin Domestig Endeavour
29th Ebrill 2022
Yn naturiol, mae cŵn yn ganolog i bopeth a wnawn yma yn y Dogs Trust. Ond o ran cam-drin domestig, nid cŵn yw'r unig anifeiliaid anwes sy’n cael eu heffeithio.
Rydym yn falch o weithio gyda'n partneriaid ym Mhrosiect Endeavour, sydd wedi cydnabod hyn mor bell yn ôl â 1997. Hwy oedd yn gyfrifol am lansi’r gwasanaeth maethu anifeiliaid anwes cyntaf y DU ar gyfer perchnogion sy'n mynd i lochesi neu lety dros dro i ffoi rhag cam-drin domestig. Eleni, maent yn dathlu eu pen-blwydd yn 25 oed.
Mae'r Prosiect Endeavour hefyd yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i'r teulu cyfan yng Ngogledd-orllewin Lloegr, ar draws ystod o wasanaethau cam-drin domestig arbenigol, gan gynnwys eiriolaeth bwrpasol ar gyfer teuluoedd, pobl ifanc, yr henoed, a rhai o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn eu geiriau hwy, 'nid oes neb yn cael ei adael ar ôl'.
Yn 2004, ar ôl cael ein hysbrydoli gan waith Prosiect Endeavour ac ar ôl clywed am ymchwil sy'n amlygu'r cysylltiadau rhwng anifeiliaid anwes a cham-drin domestig, sefydlwyd ein Prosiect Rhyddid yn Llundain.
Ers hynny, mae'r Prosiect Rhyddid wedi bod yn rhan hanfodol o'n gwaith allgymorth ac rydym wedi bod yn ehangu ein gwasanaeth yn y DU yn raddol.
Yn 2018, buom yn cydweithio'n agos ag Endeavour i ffurfio partneriaeth gydweithredol i ddarparu gwasanaeth maethu cŵn yng Ngogledd-orllewin Lloegr, tra bod Prosiect Endeavour yn parhau i ddarparu gwasanaethau maethu ar gyfer pob anifail anwes arall. Mae'r bartneriaeth hon yn ein galluogi i gyfuno ein gwybodaeth a'n hadnoddau arbenigol o bob rhan o'r ddwy elusen, sydd o fudd i bawb; yn enwedig yr anifeiliaid a pherchnogion anifeiliaid anwes rydym yn eu helpu.
Yn anffodus, mae'r cysylltiadau rhwng cam-drin anifeiliaid anwes a cham-drin domestig yn dal i fodoli heddiw ac mae’r angen am ein dau wasanaeth yn fwy nag erioed.
Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo safonau gwasanaeth ac arferion gorau mewn gwasanaethau maethu anifeiliaid anwes ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o'r mater hwn yn genedlaethol, ac, ynghyd â Cats Protection Paws Protect a Refuge 4 Pets, rydym yn rhan o’r Links Group.